Ein Partneriaid
Rydym yn angerddol dros weithio gyda busnesau lleol a bach sy'n rhannu ein gwerthoedd. Rydyn ni hefyd wrth ein bodd yn cefnogi'r Gymraeg yn y gymuned ac yn defnyddio nifer o gyflenwyr a gwasanaethau Cymraeg.
Rydym yn cynnal gweithgareddau yn y feithrinfa, yn rhad ac am ddim i'n plant i gyd. Mae'r rhain yn cynnwys Ffrangeg a Sbaeneg hwyliog Kidslingo , chwaraeon yr Urdd , gwyddoniaeth Sparklab Cymru , Animals Interactive amazing animal encounters a Mini First Aid i ddysgu sgiliau achub bywyd i'n plant. Mae'r rhan fwyaf o'n gweithgareddau allanol yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym hefyd yn rhannu adeilad gyda theml Dharma Mandir, y Deml Hindŵaidd gyntaf a'r unig Deml Hindŵaidd sydd ar hyn o bryd yng Nghasnewydd. Rydym yn gweithio gyda'r deml i ddarparu profiadau dysgu diwylliannol i'n plant, megis ymgorffori prydau traddodiadol yn ein bwydlenni a dathlu gwyliau Hindŵaidd.
Mae rhai o'n partneriaid a'n cyflenwyr busnes lleol isod. Cliciwch ar yr eiconau am fwy o wybodaeth: